Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 18 Chwefror 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
14: - 18:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Aled Roberts Jocelyn Davies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
June Milligan, Llywodraeth Cymru Alyson Francis, Llywodraeth Cymru Wyn Price, Llywodraeth Cymru Christina Scott, Cabinet Office Simon Wilkinson, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Gavin Macho, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Anne Evans, North Wales Resilience Forum Secretariat Superintendendent Claire Parmenter, Joint Emergency Services Group Rhodri Jones, St John Cymru Wales James Shaughnessy, St John Cymru Wales |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar.
1.3 Cafodd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru hefyd.
2. Argyfyngau Sifil yng Nghymru - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa'r Cabinet
2.1 Croesawodd y Cadeirydd June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru; Alyson Francis, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru; Wyn Price, Pennaeth Argyfyngau, Llywodraeth Cymru; a Christina Scott, Cyfarwyddwr, Ysgrifenyddiaeth Argyfyngau Sifil Posibl, Swyddfa’r Cabinet.
2.2 Holodd yr Aelodau’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru a Swyddfa’r Cabinet i ddarparu:
· Nodyn yn amlinellu manylion ad-daliadau ariannol a wnaed i awdurdodau lleol i dalu costau yn sgil argyfyngau mawr, gan gynnwys ad-daliadau a wnaed i Gyngor Abertawe yn dilyn y tân teiars yn Fforestfach.
· Rhagor o wybodaeth ynghylch a oes rheolau penodedig yn y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl sy’n rhwystro ymatebwyr categori dau neu asiantaethau gwirfoddol rhag cadeirio gweithgorau.
3. Argyfyngau Sifil yng Nghymru - Tystiolaeth ynghylch y safbwynt lleol
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Simon Wilkinson, Swyddog Polisi Gwasanaethau Rheoleiddio, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Gavin Macho, Rheolwr Cynllunio ar gyfer Argyfyngau, Cyngor Caerdydd; Anne Evans, Cydgysylltydd Cydnerth Lleol, Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd
Ysgrifenyddiaeth; a’r Uwcharolygydd Claire Parmenter, Cydgysylltydd Gwasanaethau Brys Argyfyngau Sifil Cymru, Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys.
3.2 Holodd yr Aelodau’r tystion.
4. Argyfyngau Sifil yng Nghymru - Tystiolaeth gan y sector gwirfoddol
4.1 Croesawodd y Cadeirydd Rhodri Jones, Cynghorydd Gweithrediadau, St John Cymru , a James Shaughnessy, Cyfarwyddwyr Gweithrediadau, St John Cymru.
4.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.
5. Papurau i'w nodi
5.1 Nododd yr Aelodau gofnodion y cyfarfod diwethaf.
6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
7. Trafod y dystiolaeth ar Argyfyngau Sifil yng Nghymru
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo ar argyfyngau sifil yng Nghymru a rhoddodd gyfarwyddyd i’r Clerc baratoi adroddiad drafft ar sail y drafodaeth.
7.2 Trafododd y Pwyllgor ei raglen waith a’i amserlen hefyd a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd ynghylch ei amserlen.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.